Y Newyddion Diweddaraf
|
GPS 4 x 4 Discovery Treks
From the heart of Snowdonia discover the wild green lanes of Wales.
Treks leaving daily all year round.
From our base in Manod GPS 4 x 4 discovery treks run a range of guided treks on different days varying in difficulty from first time trails to the more advanced. Prices start from £15 per vehicle for a full days trek. 5 Slots available on each trek/trek leader has 3 spare seats, £5 per seat. Road legal quads, dirt bikes, hybrid 4 x4 welcome.
Treks leave from various locations, please call.
Email: gps4x4discoverytreks@outlook.com Tel: 07542165906. Monthly run night treks. 5 day wild camping holiday run 4 times a year.
Sat/Sun treks run all year round, DVD of trek. Week day treks, holiday season only. Family and Groups welcome.
![]() |
Roedd Blaenau Ffestiniog yn un o’r chwe ardal bwysicaf am gynhyrchu llechi yng Ngogledd Cymru, a llechi ddaeth a bri i’r lle. Allforiwyd llechi o’r Blaenau i bedwar ban byd a daethant yn enwog am eu cryfder a’u gwydnwch parhaol.
Gadawodd y diwydiant mawr hwn greithiau parhaol ar y tirwedd, uwchlaw’r ddaear ar ffurf tipiau, tramffyrdd a melinau adfeiliedig; a hefyd o dan y ddaear gyda milltiroedd o dwneli troellog a cheudyllau enfawr o faintioli eglwysi cadeiriol a gloddiwyd gan ddwylo yn y mynyddoedd o amgylch y dref.
Er y parheir i gloddio am lechi mewn dwy chwarel sy’n dal i weithio, fodd bynnag, mae cloddfeydd tanddaearol mawrion Cwmorthin, Croesor, Rhosydd, Wrysgan a llawer o rai eraill wedi eu gadael ers blynyddoedd. Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd, sy’n gloddfa arddangos, yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar waith bob dydd y chwarelwyr Cymreig. Ar gyfer y cerddwr neu’r hanesydd diwydiannol ceir nifer fawr o lwybrau yn yr ardal sy’n cynnig y cyfle i werthfawrogi’r gweddillion a’r golygfeydd.
Gall archwiliadau tanddaearol fod yn beryglus ac ni ddylid eu mentro ond gan y rhai profiadol gydag offer pwrpasol. Fe ddylai eich Clwb Ogofa lleol fod yn fan cyswllt cyntaf da.
![]() |
Mae clogwyni deheuol y Moelwyn yn cynnig peth o’r dringo creigiau gorau ym Mhrydain. Am eu bod yn wynebu’r de maent yn sychu’n gyflym a chan fod y graig yn arw hyd yn oed pan fydd yn llaith gall olygu amodau dringo da.
![]() |
Gorwedd Blaenau Ffestiniog wrth droed cadwyn drawiadol y Moelwyn, ym mherfeddion Eryri. Bu’n adnabyddus erioed am ei feicio mynydd naturiol, draw o’r llethr sgïo, gyda dringfeydd mynyddig mawr …a disgynfeydd mwy!
Mae’n fan cychwyn gwych i unrhyw drip beicio mynydd, gan fod y Marin, Penmachno a Chanolfan Llwybrau Beicio Coed-y-Brenin o fewn cyrraedd 15 munud mewn cerbyd o ganol y dref. Ond y trysor pennaf yw Canolfan “Dh & Freeride” newydd sbon, wedi’i lleoli 1km o ganol y dref, sy’n agor ei drysau yng Ngorffennaf 2012.
Gall frolio 4 llwybr Dh o safon glas i ddu, gyda llwybr xc safon glas 8.5km, fydd yn cynnig golygfeydd godidog o gwmpas llyn Tanygrisiau. Ychwanegwch at hyn Ganolfan Ymwelwyr newydd, safle neidio, trac pwmpio a fydd yn sicrhau mai hwn fydd y cyrchfan beicio mynydd i ymweld ag ef yn 2012 a thu hwnt.
Mae Blaenau Ffestiniog hefyd yn safle ardderchog ar gyfer beicwyr ffyrdd gyda lonydd gwledig diarffordd sy’n cylchdeithio copa hudolus yr Wyddfa, gan eich gadael yn syfrdan gan y golygfeydd aruthrol a’r esgynfeydd hir drwy’r bylchau mynyddig.
Trowch i’r cyfeiriad arall ac archwiliwch fwlch Migneint, a mynyddoedd y Berwyn, sydd hyd yn oed yn fwy diarffordd, ac os oes gennych diddordeb mewn ymuno â’r clwb 100 milltir, ewch i Lyn Efyrnwy ac yn ôl drwy fwlch Llangynog.
Mae rhywbeth i bawb ym Mlaenau Ffestiniog, pa ddisgyblaeth bynnag o feicio yr ydych yn ei mwynhau.
![]() |
Un o’r ardaloedd mwyaf toreithiog am lynnoedd sy’n cynnwys brithyll brown o lynnoedd y Moelwynion, Cwmorthin, Corsiog, Conglog a Llyn Adar, hyd at lynnoedd Ffestiniog, Gamallt, a Morwynion i enwi rhai yn unig gyda’r afonydd Teigl, Cynfal a’r Ddwyryd.
Os am frithyll seithliw a brown ewch i Danygrisiau lle ceir mynediad rhwydd a chaniatâd i ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r dulliau pysgota ar gyfer pob gallu. Sefydlwyd Cymdeithas Bysgota Cambria yn 1885 ac mae’n cynnig pysgota llynnoedd rhagorol mewn amgylchoedd gwylltion. Mae Blaenau Ffestiniog, sydd ynghanol golygfeydd ysblennydd Parc Cenedlaethol Eryri, yn ddiamau yn ganolfan werth chweil ar gyfer unrhyw bysgotwr sy’n mwynhau dal brithyll brown gwyllt ym mhrydferthwch yr ardaloedd cyfagos. Caniateir unrhyw ddull cyfreithlon gyda gwialen a rîl gan gynnwys Pysgota Fflôt Tiwben, (pluen yn unig). Gan fod y llynnoedd hyn yn rhai naturiol ac anghysbell weithiau, eich dewis chi fydd penderfynu a yw hi’n saff i fentro i mewn i’r dŵr neu beidio. Lleolwyd y llynnoedd i’r gorllewin (ym mynyddoedd y Moelwyn) ac i’r dwyrain (ar y Migneint) o’r briffordd A470 sy’n rhedeg drwy’r dref.
![]() |
Wedi ei leoli ar gyrion pentref Ffestiniog tua 900 troedfedd uwchlaw’r môr, Clwb Golff Ffestiniog a sefydlwyd yn 1893 yw un o’r cyrsiau golf uchaf yng Nghymru.
Gyda golygfeydd darluniadwy o Ffestiniog a’r ardal amgylchynol, mae iddo lawer o nodweddion naturiol a pheryglus. Mesura’r cwrs 68 par 4,602 medr o Dïau’r Dynion a 3,878 medr o Dïau’r Merched.
Mae i’r clwb awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol a chynhelir ef yn wirfoddol gan yr aelodau.
Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Ffestiniog Golff.
![]() |
Caiacio a Chanŵio yn lleol – Breuddwyd Padlwyr…
Dychmygwch eich bod yn teithio’r byd ac yn dychwelyd gyda mynydd o’r Alpau, cornant serth o Orllewin Virginia, afon o Seland Newydd, rhaeadr o Norwy, moryd o Ddyfnaint, morlin creigiog o Orllewin Iwerddon a thon lanw o sir Benfro. Ychwanegwch lyn o Awstria a dyffryn o’r Rhein. Yn olaf, lle chwarae gydag argae dan reolaeth o Golorado. Dychmygwch yn awr fod hyn oll i’w canfod o fewn 5 i 45 munud i ffwrdd mewn cerbyd. Agorwch eich llygaid, rydych ym Mlaenau Ffestiniog!
![]() |
O’r lefelau uchaf i’r isaf mae Ffestiniog yn cynnig pob math o deithiau cerdded. O’r Moelwyn Bach yn y de i gopa uchel Moel Siabod mae gennych 90km sgwâr o gefn gwlad gwyllt i’w archwilio. Yn yr ardaloedd gwylltaf, mae defnyddio map a chwmpawd yn hanfodol. I’r de o’r Blaenau ac yn ymgodi’n uchel uwch ei phen mae’r Manodau. Er bod copa gogleddol y Manod Mawr wedi ei chwarela’n drwm, mae’r copa deheuol yn parhau i fod yn gymharol anghyffyrddedig a gwyllt. Mae ei frawd lleiaf - Manod Bach yn wyllt a heb ei gyffwrdd gan lwybrau. Yn gorwedd rhwng y copaon mae Llyn Manod yn ei holl brydferthwch ac yn lle delfrydol i gael picnic.
Cofiwch fod gennym deithiau cerdded poblogaidd ar ein gwefan.
![]() |
Llond lle o bethau difyr i wneud!
(Cliciwch ar y llun i'w chwyddo) |
- 8 Twll o Crazy Golf
- 6 Lon o Scalextric
- Cychod Rheolaeth Bell
- Rheilffordd G-Scale
- Trac Rasio NASCAR
- A Mwy!
Dros y ffordd i orsaf drenau Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog
Gwynedd
LL41 3HD
www.itsasmallworld.org.uk (AR GAU BOB DYDD LLUN)
Ffôn Symudol: Mike 07521 482742
Gweithgaredd | Trefnydd | Ffôn | Côd post | Gwefan/E-bost |
Cyrsiau cerdded | Plas Tan y Bwlch | 01766 772600 | LL41 3YU | gwefan |
Teithiau tywysedig | Antur Stiniog | 01766 832214 | LL41 3AA | gwefan |
Archwilio cloddfeydd | Antur Stiniog | 01690 348068 | gwefan | |
Archwilio cloddfeydd | Cyfeillion Cwmorthin | 01766 762765 | LL41 4PH | gwefan |
Mynyddwr (MIC) | Bob Field | 01766 830511 | LL41 3HS | gwefan |
Cerdded/dringo mynyddoedd | Alister Haveron | 07779 961027 | LL41 4TS | gwefan |
Dringo creigiau | Chris Boughay | 01766 762765 | LL41 4PH | gwefan |
Cerdded Nordig tywysedig | Bob Field | 01766 830568 | e-bost | |
Cyrsiau mynydda | Catrin Roberts | 01766 832120 | LL41 4DF | gwefan |
Mike Laing | ||||
Beicio mynydd | 0300 068 0300 | LL40 2HZ | gwefan | |
Beicio mynydd tywysedig | Coed y Brenin | 01690 760181 | LL24 0PU | gwefan |
Beicio goriwaered ac arall | Tyred Out | 01766 832214 | LL41 3AA | gwefan |
Antur Stiniog | ||||
Pysgota | 01766 762401 | wesite | ||
Pysgota | Pysgota Cambria | 01766 540313 | gwefan | |
Pysgota | Pysgota Prysor | 01766 830950 | LL41 3TP | Lakeside Cafe |
Trwyddedau ac offer pysgota | Llyn Tanygrisiau | 01766 770339 | LL48 6BN | Penrhyndeudraeth |
Trwyddedau pysgota | Gynnau Penrhyn | 01766 512578 | LL49 9LR | Porthmadog |
Tywysydd pysgota | Siop Bapur Newydd Pykes | 01286 880376 | e-bost | |
Cwrs pysgota â phlu | Trevor Jones | 01766 772600 | LL41 3YU | gwefan |
Plas Tan y Bwlch | ||||
Ras y Moelwyn (fell run) | Antur Stiniog | 01766 832214 | LL41 3AA | gwefan |
Rhaffau uchel a gwifrau gwibio | Go Ape | 0845 643 92 15 | LL40 2HZ | gwefan |
Merlota | Eirlys Pritchard | 01766 590231 | LL41 4HY | Maentwrog |
Rafftio dŵr gwyn | Canolfan Dŵr Gwyn | 01678 521083 | LL23 7NU | gwefan |
Caiacio a chanŵio | Padlo Blaenau | 01766 830750 | e-bost | |
Pwll nofio | Blaenau Ffestiniog | 01766 831066 | LL41 3DW | |
Hwylio | Clwb Hwylio Madog | 01766 512976 | LL49 9AT | gwefan |
Rhwyfo | Clwb Rhwyfo Madog | 01766 810273 | LL49 9AT | gwefan |
Teithiau beic pedair olwyn | Madog Quads | 07511 582079 | gwefan | |
Golff | Llan Ffestiniog | 01766 831829 | gwefan | |
Golff | Porthmadog | 01766 512037 | LL49 9UU | gwefan |
Golff | Harlech | 01766 780361 | LL46 2UB | gwefan |
Maes ymarfer golff | Porthmadog | 01766 514 225 | LL49 9DS | gwefan |
Gwylio adar | Gwalch y pysgod RSPB | 029 2035 3008 | gwefan | |
Cyrsiau gwylio adar | Plas Tan y Bwlch | 01766 772600 | LL41 3YU | gwefan |
Nythfa brain coesgoch | Llechwedd | 01766 830306 | LL41 3NB | gwefan |
Eich Hynafiaid Cymreig | Cricieth | 01766 547073 | LL52 0EG | gwefan |
Nid yw hon yn rhestr gyflawn ond os ydych yn gweithredu yn Nyffryn Ffestiniog ac y awyddys i gael eich cynnwys arni,
Cysylltwch â: webmaster@blaenauffestiniog.org |