Y Newyddion Diweddaraf
|
Ers ffyniant cloddio Llechi y 1800au, mae Blaenau Ffestiniog wedi mwynhau treftadaeth gyfoethog o greadigrwydd - o’i gorau i fandiau prês, telynorion dall i fandiau ‘reggae’ y presennol. Mae’n ffyniant o greadigrwydd! Byddai’n amhosibl rhestru popeth yma, ond yn fras:
Celf / Ffotograffiaeth / Cerflunwaith
Y mae’r Clwb Camera yn bodoli ers 1961 ac yn cyfarfod ar nosweithiau Mercher yn y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog rhwng 7.30yh – 9.00yh (mis Medi – Ebrill).
Cyrsiau ym Melin Pant-yr-Ynn - Agor Calonnau a Meddyliau
Medi - Rhagfyr 2014
Bydd y Felin yn agored i'r cyhoedd fel rhan o Helfa Gelf ym mis Medi. Bydd gweithdai, sgyrsiau ac arddangosfa yno. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
David Nash
Y mae David Nash, cerflunydd sydd wedi sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog yn un o artistiaid cyfoes gorau’r DU.
Gareth Parry
Y mae ei baentiadau wedi’u dylanwadu’n gryf gan y diwydiant llechi, tirwedd Ffestiniog a chwarelwyr yr ardal.
Maria Hayes
Gwaith dau ddimensiwn yw gwaith Maria, sy’n defnyddio amrywiol gyfryngau gan gynnwys peintio, printio, darlunio a chyfryngau cymysg. Caiff ysbrydoliaeth o dirwedd Gogledd Cymru ac yn y ffurf ddynol.