Y Newyddion Diweddaraf
|
Cyfeirwyd at Blaeneu Ffestiniog yn aml fel calon Park Cenedlaethol Eryri, gan ei fod wedi leoli mewn ardal perffaith i archwilio’r oll sydd ar gael o fewn y parc golygfaol. Yng nghanol y dref, sydd wedi ei leoli yng Ngwynedd, mae hwb trafnidiaeth cyhoeddus cyfleus sy’n cysylltu Rheilffordd Ffestiniog gyda Rheilffordd tir mawr, Trenau Arriva Cymru a sawl cylchdaith bws yn yr ardal. Mae teithio o gwmpas yn hawdd. Felly ystyriwch Blaenau Ffestiniog fel canolbwynt wych os ydych am chwilota’r Parc Cenedlaethol Eryri a’i amrywiaeth eang o atyniadau.
Tref cymharol ifanc yw Blaenau Ffestiniog, a chafodd ei hadeiladu yn y 18fed ganrif yn dilyn darganfyddiad o wythien o lechen gwerthfawr yn yr ardal. Ond mae Plwyf Ffestiniog yn dyddio canrifoedd cyn hynny. Gwelir olion hynafol gyda rhai safleoedd yn dyddio yn ôl i’r oes Efydd a Haearn, a mae tystiolaeth bod y Rhufeiniaid hefyd wedi byw yn lleol.
Fel tyst i wreiddiau hanesyddol Cymraeg yr ardal, mae rhai enwau lleoedd yn deillio o’r chwedlau Cymreig enwog Y Mabinogion. Ewch am dro plesurus ar hyd rhai o’r llwybrau a darganfyddwch y dyffrynoedd enwog Cwm Bowydd, Cwmorthin, Cwm Teigl a Chwm Cynfal - bob un a’i nodweddion hanesyddol arbennig a golygfaoedd trawiadol. Bu Sarn Helen, hen ffordd Rhufeinig sy’n traeddio am ychydig filltiroedd yn yr ardal yn atgoffa o’r Llengoedd Rhufeinig yn cyrraedd Tomen-y-Mur, sef hen wersyll Rhufeinig sefydlwyd tua’r 2il neu 3ydd ganrif A.D.
Bu Blaenau Ffestiniog yn enwog fel ‘brif cynhyrchiwr llechi Cymru’ gyda’i harddwch cymhellol ei hun. Gweler domenydd trawiadol o wastraff chwarelu yn gorwedd ar ochrau llethrau serth y mynyddoedd, ac yn gweddu’n ddi-dor efo harddwch mawreddol Eryri. Cewch ymweld a hanes unigryw Blaenau Ffestiniog yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd, neu ewch am dro ar hyd lein fach Rheilffordd Ffestiniog ar y tren stem i Borthmadog. Hefyd, cewch antur arbennigol ar gefn beic mynydd ar lethrau lawr allt Antur ‘Stiniog, a bydd llwybr sy’n addas i deuluoedd fwynhau ar gefn beic yn agored o amgylch Llyn Tanygrisiau erbyn diwedd 2013. Mae gwaith adnewyddu canol y dref ar fin gorffen, sydd wedi cael effaith eithriadol i wella’r cynnig o siopau, bwytai, caffis a thafarndai yn y dref. Hefyd mae ystod eang o lety, gwely a brecwast, gwestai bach a gwestai hunan-ddarpar o safon yn yr ardal.
Mae'r dref yn ymfalchio mewn cyfuniad unigryw o hanes naturiol, harddwch, diwylliant a bwrlwm, sy’n gorwedd yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Estynnir croeso cynnes i chi ddod i chwilota’r dref gyda'i dirwedd o fynyddoedd garw, dyffrynnoedd hardd, llynnoedd tawel a rhaeadrau ysblenydd.
Gyda chanolbwynt cludiant cyhoeddus cyfleus yng nghanol y dref sy’n cysylltu Rheilffordd Ffestiniog a gwasanaethau tir mawr Trenau Arriva Cymru gyda sawl llwybr bws yn yr ardal, ni allai teithio o gwmpas fod yn haws. Gellwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth am amserau cludiant cyhoeddus o fewn ac o amgylch y dref, neu i gynllunio ymlaen, dyma rai o wefannau defnyddiol:
Mae gennym hefyd wasanaethau coetsis a thacsis cyfeillgar a chynorthwyol yn gweithredu yn yr ardal, sydd yn gallu ateb eich holl ofynion cludiant.
Coetsis Hafan Coaches
tel: 01766 832126
Tacsis a Choetsis John's Taxis & Coaches
81 Ffordd Manod, Blaenau Ffestiniog, LL41 4AF
ffôn: 01766 831781
Tacsi Nevs' Taxis
hyd at 16 sedd – hurio preifat
Bodefryd, Ffestiniog, LL41 4LR
ffôn: 01766 762465
Tacsi Traws-Gwlad Taxis
bws mini 16 sedd – hurio preifat
ffôn: 07833950988